Mae disgwyl i Ben Davies chwarae i Gymru yn gemau rhagbrofol Ewro 2020 y mis yma ar ôl i lawdriniaeth ar ei hernia gael ei gohirio.

Doedd yr amddiffynnwr 26 oed ddim i weld ar gael ar gyfer y gemau yn erbyn Croatia ar ddydd Sadwrn (Mehefin 8) a dydd Mawrth nesaf yn erbyn Hwngari (Mehefin 11).

Roedd bwriad iddo gael llawdriniaeth ar ei hernia ar ôl ffeinal ei glwb Tottenham Hotspurs yn erbyn Lerpwl yn ffeinal Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Mae hyn yn newyddion gwych i reolwr Cymru, Ryan Giggs, a’r cefnogwyr.

“Mae Ben Davies wedi ymuno â charfan Cymru’r bore yma ar ôl i’w driniaeth a drefnwyd cael ei gohirio,” meddai datganiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru.