Mae Clwb Pêl-droed Lerpwl yn dathlu ar ôl curo Spurs o 2-0 yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ym Madrid neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 1).

Sgoriodd Mo Salah o’r smotyn ar ôl dwy funud yn stadiwm Wanda Metropolitano, a chafodd y fuddugoliaeth ei choroni gan Divock Origi wrth iddo rwydo’n hwyr yn y gêm i gadarnhau’r canlyniad.

Roedd Spurs o dan bwysau ar unwaith pan lawiodd Moussa Sissoko y bêl wrth iddi gael ei chroesi gan Sadio Mane a chafodd y penderfyniad ei gadarnhau gan y dyfarnwr fideo.

A sgoriodd Divock Origi chwip o gôl ar draws y cwrt cosbi i sicrhau’r tlws.

Dyma chweched teitl Ewropeaidd Lerpwl, ac fe ddaw flwyddyn ar ôl iddyn nhw golli yn y rownd derfynol.

Dyma’r tro cyntaf i Spurs gyrraedd y rownd derfynol.

Ymateb cymysg

Mae pobol wedi bod yn ymateb i’r canlyniad ar y cyfryngau cymdeithasol.

Tra bod rhai yn hapus i weld y Cochion yn ennill, roedd eraill am weld Spurs yn ennill y tlws am y tro cyntaf yn eu hanes.

Ac fe wnaeth rhai ymateb â’u tafod yn eu boch: