Mae hyfforddwr tîm pêl-droed Cymru wedi amddiffyn Gareth Bale i’r carn.
Fe gafodd seren Cymru ddiweddglo hynod siomedig i’r tymor gyda Real Madrid, yn eistedd yn segur ar y fainc ar gyfer gêm ola’r tymor.
Ac mae cefnogwyr y clwb wedi cyhuddo’r Cymro 29 oed o fod â mwy o ddiddordeb mewn chwarae golff na chwarae pêl-droed.
Ond yn dilyn cyfnod o hyfforddi gyda’r tîm cenedlaethol ym Mhortiwgal, a hynny cyn gemau allweddol oddi cartref yn Croatia a Hwngari, mae Ryan Giggs yn hyderus fod y tân dal ym mol Gareth Bale.
“Roedd yn edrych fel ei fod yn mwynhau ei bêl-droed i mi,” meddai hyfforddwr Cymru am berfformiad Bale yn y sesiynau hyfforddi.
“Roedd ar flaen ei draed, eisiau’r bêl… fe sgoriodd gôl wych.
“Ac ar ôl i nifer o’r bechgyn fynd, roedd yn ymarfer saethu at y gôl – nid yw hynny yn fy nharo fi fel rhywun sydd ar dân i roi’r gorau iddi a mynd yn ôl i’w ‘stafell.
“Dyna agwedd chwaraewr proffesiynol sy’n dal i garu pêl-droed.”