Mae adroddiadau bod Clwb Pêl-droed Bournemouth yn awyddus i arwyddo Connor Roberts o Abertawe.

Gallen nhw fod yn barod i dalu £10m am y cefnwr de ar ôl bod yn cadw llygad arno.

Daw’r adroddiadau ddyddiau’n unig ar ôl i’r clwb gael eu cysylltu â Daniel James, sydd yn fwyaf tebygol o ymuno â Manchester United.

Mae Connor Roberts yn cael ei ystyried yn eilydd addas ar gyfer Nathaniel Clyne, sy’n dychwelyd i Lerpwl ar ôl chwe mis ar fenthyg.

Mae Trevor Birch, cadeirydd newydd Abertawe, eisoes wedi dweud na fydd y clwb yn gwerthu chwaraewyr yn ddi-angen, ond fe allai’r swm o arian sy’n cael ei gynnig am Connor Roberts fod yn ormod i’w wrthod yn y pen draw, wrth iddyn nhw barhau i ddiodde’n ariannol ers cwympo o Uwch Gynghrair Lloegr.