Mae Mike Flynn, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, wedi cwestiynu’r penderfyniad i beidio â defnyddio dyfarnwr fideo ar gyfer rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Wembley.

Collodd yr Alltudion o 1-0 ar ôl amser ychwanegol yn erbyn Tranmere, fel y byddan nhw’n treulio’r tymor nesaf yn yr Ail Adran unwaith eto.

Dylai’r Cymry fod wedi cael cic o’r smotyn ar ôl 84 munud, pan gafodd Jamille Matt ei lorio gan Emmanuel Monthe.

Aeth Connor Jennings yn ei flaen i rwydo’r gôl fuddugol i’r Saeson yn eiliadau ola’r gêm.

Ddylai’r gêm ddim bod wedi cael ei chynnal yn Wembley oni bai bod yr awdurdodau’n gwneud defnydd llawn o’r cyfleusterau, meddai Mike Flynn yn ei gyfweliad ar ôl y gêm.

‘Cartref pêl-droed’

“Rydyn ni yng nghartref pêl-droed, yn Wembley, mae gyda ni VAR, mae gyda ni gyfarpar, mae gyda ni ddyfarnwyr sy’n ddyfarnwyr llawn amser ac mae penderfyniad mawr heddiw wedi ein lladd ni’n llwyr,” meddai.

“Mae’n gic o’r smotyn yn bendant, ac alla i ddim credu na chafodd hi ei rhoi.

“Dyna fy rhwystredigaeth i. Rydyn ni wedi gweld y fideo eto, ac mae’n gic o’r smotyn, 100%.

“Mae’n benderfyniad gwael iawn, mae’n ffeinal y gemau ail gyfle, allwch chi ddim gwneud penderfyniadau mawr anghywir.

“Mae gyda ni gyfleusterau yma, maen nhw eisiau’r ffeinal yn Wembley, mae 25,000 o bobol yma, mae 8,000 ar gyfer y Gyngres.

“Os nad ydyn nhw’n mynd i ddefnyddio’r holl gyfleusterau sydd wrth law, pa ddiben eu cael nhw yma?”