Mae Joe Rodon, amddiffynnwr ifanc tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud bod angen i’r clwb adeiladu ar dymor llwyddiannus yn 2019-2020.

Bu bron i’r Elyrch gyrraedd y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor hwn, ac mae dull y tîm ifanc o chwarae wedi ennyn cryn ganmoliaeth yn ystod y tymor.

Ond byddan nhw’n brwydro am ddyrchafiad unwaith eto’r tymor nesaf gyda rheolwr newydd, yn dilyn penderfyniad Graham Potter i fynd i Brighton er mwyn cael y profiad o reoli yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae’r dyfalu ynghylch enw’r rheolwr newydd yn parhau, gyda chryn sylw i Cameron Toshack, yr hyfforddwr oedd yn gyfrifol am feithrin doniau’r to iau yn yr Academi.

Ymhlith y rhai oedd wedi sefyll allan y tymor diwethaf oedd y Cymry Daniel James a Connor Roberts, ynghyd ag Oli McBurnie, George Byers a Matt Grimes.

Roedd Joe Rodon allan am ran sylweddol o’r tymor ar ôl torri asgwrn yn ei droed.

‘Rhaid i fi barhau i wella’

“Rhaid i fi barhau i wella, dyna natur pêl-droed,” meddai’r Cymro ifanc, sy’n hanu o ardal Llangyfelach y ddinas.

“Os ydych chi’n sefyll yn stond, rydych chi’n cael eich gadael ar ei hôl hi.

“Mae’r un peth yn wir amdanon ni fel tîm.

“Dw i’n hyderus iawn yn sgil y tymor aeth heibio, a rhaid i ni fynd i ffwrdd rhwng y tymhorau a sicrhau ein bod ni’n dychwelyd ac yn gwthio ar raddfa enfawr.

“Gobeithio y gallwn ni fwrw iddi.”