Fe fydd rheolwr Abertawe, Graham Potter, yn cael trafodaethau gyda chlwb pêl-droed Brighton ar ôl i’r clwb o Loegr gytuno i dalu’r ffi i’w ryddhau o’i gytundeb gyda’r Elyrch, yn ôl adroddiadau Sky Sports News.

Cafodd Graham Potter, 43, gynnig newydd gan Abertawe wythnos diwethaf wrth iddyn nhw geisio cadw’r rheolwr yn Stadiwm y Liberty.

Ers hynny, fodd bynnag, mae Graham Potter wedi dweud ei fod eisiau gadael am her newydd yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Yn ôl adroddiadau, nid yw cynnig Abertawe wedi bod yn ddigon i’w berswadio i aros ac mae’n debygol y byddai’n mynd a’i staff gydag ef i  Loegr ar ôl i Brighton gytuno ar ffi gwerth £2m.

Daeth y rheolwr o Loegr yn ffefryn i gymryd yr awenau yn Brighton ar ôl i’w hyfforddwr Chris Hughton gael ei ddiswyddo wythnos diwethaf.

Ar ôl i’r Elyrch ddisgyn i’r Bencampwriaeth tymor diwethaf, mae Graham Potter wedi dod a sefydlogrwydd nol i Stadiwm y Liberty wrth orffen yn 10fed a chyrraedd rownd wyth olaf Cwpan FA Lloegr.