Mae Caerdydd yn chwarae eu gêm gartref olaf o’r tymor yfory (Sadwrn, Mai 4) yn erbyn Crystal Palace, un o hen dimau eu rheolwr.

Ac mae neges Neil Warnock i’w dîm presennol yn hollol glir: “Os nad ydan ni yn ennill y gêm yn erbyn Palace, fe gawn ni anghofio [am osgoi cwympo o’r gynghrair].”

Mae Caerdydd yn y safleoedd syrthio a Brighton sydd uwch eu pennau, gyda phedwar yn fwy o bwyntiau.

Tra mae Brighton yn herio Arsenal a Man City yn eu dwy gêm olaf o’r tymor, mae Caerdydd angen curo Crystal Palace yfory  a Man United oddi cartref ymhen wythnos, er mwyn cael unrhyw obaith o aros yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Ac mae Neil Warnock yn rhybuddio na fydd hi’n hawdd yn erbyn Crystal Palace.

“Rydan ni’n wynebu tîm sydd yn chwarae rhywfaint o’r pêl-droed gorau oddi cartref yn yr Uwch Gynghrair.

“Rhaid i ni obeithio y gallwn ni ddygymod â hynny a bod ein blaenwyr yn creu cyfleon.”