Wrecsam 0–1 Eastleigh (W. A. Y.)                                                

Mae tymor Wrecsam ar ben wedi iddyn nhw golli yn erbyn Eastleigh yn rownd go-gynderfynol gemau ail gyfle Cynghrair Genedlaethol Lloegr ar y Cae Ras heno (nos Iau, Mai 2).

Capten yr ymwelwyr, Danny Hollands, a sgoriodd unig gôl y gêm gyda foli berffaith mewn amser ychwanegol yn dilyn naw deg munud di-sgôr.

Sgorio goliau oedd prif broblem Wrecsam y tymor hwn ac fe wnaethon nhw bopeth ond sgorio yn y gêm hon.

Tarodd y tîm cartref y trawst ddwywaith gyda Shaun Pearson a Stuart Beavon, cafodd dau gynnig arall eu clirio oddi ar y llinell a gwnaeth Luke Southward lu o arbediadau yn y gôl i’r ymwelwyr.

Ac phan wnaeth Kieran Kennedy roi’r bêl yng nghefn rhwyd Eastleigh fe benderfynodd y dyfarnwr ei fod wedi gweld trosedd ar Southward, penderfyniad dadleuol tu hwnt.

Yna, wedi bron i ddwy awr ddi sgôr fe rwydodd Hollands y gôl holl bwysig gyda foli flasus o ugain llath yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd hanner cyntaf yr amser ychwanegol.

Taflodd Wrecsam bopeth at eu gwrthwynebwyr yn yr ail hanner ond dal eu gafael a wnaeth Eastleigh wrth i Wrecsam wynebu tymor arall y tu allan i’r gynghrair bêl droed.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Roberts, Jennings, Young, Kennedy, Pearson, Summerfield (Rutherford 51’), Wright, Holroyd, Beavon (Oswell 71’), Grant (McGlashan 100’)

Cardiau Melyn: Kennedy 105’, Pearson 105’

.

Eastleigh

Tîm: Southwood, Hare (McKnight 79’), Green, Johnson, Wynter, Boyce, Jones (Gobern 71’), Yeates (Matthews 100’), Hollands, McCallum, Williamson (Zebroski 79’)

Gôl: Hollands 105+4’

Cardiau Melyn: Hare 32’, Jones 37’, Johnson 105’, McKnight 120’

.

Torf: 6,723