Casnewydd 1–0 Lincoln      

Mae rhediad hwyr Casnewydd at gemau ail gyfle’r Ail Adran yn parhau wedi iddynt drechu’r pencampwyr, Lincoln, ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Scott Bennett unig gôl y gêm wrth i’r Alltudion gadw o fewn cyrraedd y seithfed safle holl bwysig gyda dwy gêm yn weddill.

Teithiodd y Coblynnod i dde Cymru fel pencampwyr yn dilyn eu gêm gyfartal yn erbyn Tranmere ddydd Llun ond y tîm cartref a ddechreuodd orau gan agor y sgorio wedi dim ond saith munud, Padraig Amond yn gosod y bêl i Bennett ac yntau’n ei tharanu i gefn y rhwyd oddi ar ochr isaf y trawst.

Robbie Willmott a ddaeth agosaf at ddyblu’r fantais ond roedd yr un gôl gynnar yn ddigon.

Mae Casnewydd yn aros yn yr unfed safle ar ddeg er gwaethaf y fuddugoliaeth ond gall tîm Mike Flynn godi i’r safleoedd ail gyfle gyda thri phwynt arall yn eu gêm wrth gefn yn erbyn Oldham nos Fawrth.

.

Casneywdd

Tîm: Day, Poole, O’Brien, Demetriou, Willmott, Dolan, Bennett, Sheehan, Butler, Amond, Kennedy (Azeez 74’)

Gôl: Bennett 7’

Cerdyn Melyn: Poole 42’

.

Lincoln

Tîm: Vickers, Eardley, Bolger, Bostwick, Toffolo, Anderson (Carvalho Andrade 58’), O’Connor (Pett 77’), O’Hara, Rowe, Rhead (McCartan 45’), Akinde

Cardiau Melyn: Rhead 45’, Rowe 55’, Toffolo 55’, Bostwick 71’

.

Torf: 4,605