Fulham 1–0 Caerdydd                                                                       

Mae Caerdydd yn agosáu at y gwymp o Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl colli yn erbyn Fulham yn Craven Cottage brynhawn Sadwrn.

Roedd angen o leiaf bwynt ar yr Adar Gleision yn Llundain i gadw unrhyw obaith realistig o aros yn y brif adran am dymor arall ond nid felly y bu wrth i Ryan Babel sgorio unig gôl y gêm i’r tîm cartref.

Wedi hanner cyntaf hynod ddi fflach, fe wellodd y ddau dîm fymryn wedi’r egwyl. Bu rhaid aros tan ddeuddeg munud o’r diwedd am gôl serch hynny, chwip o ergyd gan Babel ar y cynnig cyntaf o ugain llath.

Dim ond wedi hynny y dechreuodd yr Adar Gleision weithio Diego Rico ond rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi ac roedd gôl-geidwad gwaethaf y gynghrair hyd yn oed yn ddigon tebol i gadw llechen lân.

Mae’r golled yn gadael tîm Neil Warnock dri phwynt y tu ôl i Brighton, sydd â gwahaniaeth goliau sylweddol well. Unig obaith y Cymry bellach yw casglu o leiaf bedwar pwynt o’u dwy gêm olaf yn erbyn Crystal Palace a Man U, gan obeithio y bydd Brighton yn colli eu gemau hwy i gyd.

.

Fulham

Tîm: Rico, Odoi (Christie 28’), Le Marchand, Ream, Bryan, Chambers, Zambo Anguissa, Sessegnon (Mawson 85’), Cairney, Babel (Ayite 89’), Mitrovic

Gôl: Babel 79’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Morrison, Ecuele Manga, Bennett, Gunnarsson (Reid 87’), Bacuna, Hoilett, Camarasa (Healey 72’), Mendez-Laing, Niasse (Ward 61’)

.

Torf: 23,822