Macclesfield 0–0 Casnewydd                                                        

Arhosodd Casenwydd o fewn cyrraedd gemau ail gyfle’r Ail Adran gyda gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Macclesfield ar Moss Rose brynhawn Llun.

Y tîm cartref a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ond ymatebodd yr Alltudion yn dda yn yr ail hanner. Ond er gwaethaf ymdrechion Ben Kennedy, Robbie Willmott a Scot Bennett, parhau’n ddi sgôr a wnaeth hi.

Yn ffodus i dîm Mike Flynn, ni wnaeth yr un o’r timau o’u cwmpas ennill ddydd Llun chwaith ac mae eu tynged yn eu dwylo eu hunain o hyd. Maent yn aros yn yr unfed safle ar ddeg, ddau bwynt o’r safleoedd ail gyfle, ond gyda gêm wrth gefn ar y gweddill.

.

Macclesfield

Tîm: O’Hara, Welch-Hayes, Kelleher, Jules, Fitzpatrick, Durrell, Rose (Cole 75’), Evans, Ntambwe, Wilson (Marsh 69’), Smith

Cardiau Melyn: Kelleher 45+1’, O’Hara 50’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Poole, O’Brien, Demetriou, willmott, Bennett (Azeez 81’), Dolan (Kennedy 64’), Sheehan, Butler, McKirdy (Marsh-Brown 64’), Amond

.

Torf: 2,269