Mae Heddlu’r De yn rhybuddio bod tocynnau ffug ar werth am hyd at £1,000 ar gyfer gêm fawr tîm pêl-droed Caerdydd yn erbyn Lerpwl heddiw (dydd Sul, Ebrill 21).

Mae’n cael ei hystyried yn gêm hollbwysig i obeithion y ddau dîm ar naill ben y tabl a’r llall.

Tra bod Lerpwl yn mynd am dlws Uwch Gynghrair Lloegr, mae’r Adar Gleision yn brwydro i aros yn y gynghrair ar ddiwedd tymor siomedig.

Ar ôl i Brighton sicrhau buddugoliaeth bwysig dros benwythnos y Pasg, mae’r gêm yn bwysicach fyth i Gaerdydd.

‘Dim tocynnau ar ôl’

Yn ôl yr heddlu, does dim tocynnau ar ôl ar gyfer y gêm ac felly, mae unrhyw docynnau sydd ar werth erbyn hyn yn debygol o fod yn ffug.

“Adroddiadau o docynnau ffug ar werth,” meddai’r heddlu ar Twitter.

“Os nad ydych chi wedi cael eich tocyn o ffynhonnell ddibynadwy neu os nad ydych chi’n sicr o’i ddilysrwydd, cysylltwch â’r clwb i’w wirio.

“Am fod yr holl docynnau wedi’u gwerthu, dim ond troi tocynnau ffug i ffwrdd y gellir ei wneud.”

Mae’r heddlu hefyd yn rhybuddio y gallai cefnogwyr Lerpwl fod wedi cael tocynnau yn seddau Caerdydd, gan fod cynifer ohonyn nhw yn ne Cymru.