Wrecsam 1–0 Sutton United                                                         

Mae gobeithion Wrecsam o orffen yn nhri uchaf Cynghrair Genedlaethol Lloegr yn fyw o hyd wedi iddynt drechu Sutton United ar y Cae Ras brynhawn Ddydd Gwener y Groglith.

Kieran Kennedy a sgoriodd unig gôl y gêm wrth i’r Dreigiau gadw o fewn cyrraedd y tri safle uchaf er i’r timau uwch eu pennau ennill hefyd.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, bu rhaid aros tan ddeuddeg munud o’r diwedd am yr unig gôl, Kennedy’n rhwydo wedi traed moch yng nghwrt cosbi’r ymwelwyr.

Fe enillodd pob un o’r pedwar uchaf eu gemau brynhawn Gwener gan olygu bod gobeithion Wrecsam o ennill y gynghrair bellach ar ben yn sywddogol.

Ond gyda dwy gêm yn weddill, mae tîm Bryan Hughes o fewn cyrraedd y tri uchaf o hyd, dri phwynt y tu ôl i Solihull yn y trydydd safle a phedwar y tu ôl i Salford, sydd yn ail. Mae gwahaniaeth goliau’r ddau dîm arall yn sylweddol well na’r Dreigiau serch hynny.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Roberts, Pearson, Carrington, Young, Kennedy, Holroyd, Rutherford (Summerfield 59’), Wright, Beavon (Oswell 72’), Grant (McGlashan 72’)

Gôl: Kennedy 78’

Cerdyn Melyn: Young 71’

.

Sutton United

Tîm: Worner, Bennett, Bolarinwa, Deacon, Beautyman, Eastmond, Dobson (Thomas 66’), Barden (Bellikli 85’), Toure, Ayunga (Kearney 78’), Williams

Cerdyn Melyn: Eastmond 10’

.

Torf 5,264