Abertawe 4–3 Rotherham                                                              

Mae rhediad cartref da Abertawe yn y Bencampwriaeth yn parhau wedi iddynt drechu Rotherham mewn gêm gyffrous brynhawn Ddydd Gwener y Groglith.

Oli McBurnie a sgoriodd y gyntaf a’r olaf o bedair gôl yr Elyrch wrth iddynt ennill o bedair i dair ar y Liberty.

Dechreuodd y tîm cartref yn araf ac fe beniodd Michael Ihiekwe yr ymwelwyr ar y blaen o groesiad Will Vaulks wedi dim ond deg munud.

Unionodd McBurnie bethau o groesiad Matt Gimes ddeg munud cyn yr egwyl ond roedd Rotherham yn ôl ar y blaen wrth droi diolch i Matt Crooks.

Roedd yr Elyrch yn dipyn gwell yn yr ail hanner ac roeddynt yn gyfartal wedi dim ond pum munud diolch i beniad Barrie McKay o groesiad Dan James.

Ergyd George Byers a roddodd y tîm cartref ar y blaen ugain munud o’r diwedd er bod awgrym iddi wyro oddi ar law Kyle Naughton.

Ymestynnodd McBurnie’r fantais i ddwy gôl pan orffennodd symudiad taclus ddeuddeg munud o’r diwedd.

Cafwyd diweddglo nerfus serch hynny wedi i Vaulks rwydo trydedd Rotherham. Tafliadau hir chwaraewr rhyngwladol Cymru a oedd wedi arwain at ddwy gôl gyntaf yr ymwelwyr ond ergyd daclus gan y chwaraewr canol cae a oedd y drydedd.

Nid oedd hi’n ddigon serch hynny wrth i Abertawe ymestyn ei rhediad o fuddugoliaethau cartref yn y gynghrair i saith gêm.

Mae’r canlyniad yn codi tîm Graham Potter i’r unfed safle ar ddeg yn y tabl gyda phedair gêm ar ôl.

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Roberts, van der Hoorn, Carter-Vickers, Naughton, Fulton (Byers 45’), Grimes, McKay (Rodon 75’), Routledge (Baker-Richardson 89’), James, McBurnie

Goliau: McBurnie 36’, 79’, McKay 50’, Byers 69’

.

Rotherham

Tîm: Rodak, Vyner, Ihiekwe, Robertson, Mattock, Ajayi (Towell 57’), Forde, Vaulks, Crooks (Wiles 82’), Taylor (Williams 79’), Smith

Goliau: Ihiekwe 10’, Crooks 38’, Vaulks 83’

Cerdyn Melyn: Ajayi 13’

.

Torf: 18,527