Mae gan Wrecsam, Abertawe a Chasnewydd gêmau pwysig heddiw.

Wrth edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Sutton United ar y Cae Ras, mae Wrecsam eisoes wedi llwyddo i gyrraedd y gemau ail-gyfle wedi iddyn nhw guro Barnet 1-2 ddydd Sadwrn diwethaf.

Mae Casnewydd adref yn erbyn Bury sydd yn ail yn yr Ail Adran a hefyd yn gobeithio ennill eu lle yn y gêmau ail gyfle.

Yn y cyfamser, mae Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi galw ar ei chwaraewyr i orffen y tymor yn gryf, er bod eu gobeithion nhw o gyrraedd y gemau ail gyfle yn y Bencampwriaeth bron iawn ar ben.

Mae’n cyfaddef y byddai’n rhaid i’r Elyrch ennill pob un o’r gemau sy’n weddill er mwyn bod ag unrhyw obaith o gwbl o gyrraedd y chwech uchaf a dychwelyd yn syth i Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae’r tîm ifanc wedi dangos cryn addewid yn ddiweddar yn erbyn Brentford, Middlesbrough a Stoke.

Ac fe allen nhw barhau â’u rhediad addawol gyda buddugoliaeth dros Rotherham heddiw (3 o’r gloch).

Ystadegau a’r timau

 

Tra bod Rotherham yn ail ar hugain, un pwynt ac un safle islaw’r safleodd diogel, mae’r Elyrch yn mynd am chweched buddugoliaeth o’r bron ar eu tomen eu hunain am y tro cyntaf ers y cyfnod rhwng Tachwedd 2007 a Chwefror 2008 o dan reolaeth Roberto Martinez.

 

Dim ond dwywaith mae Rotherham wedi ennill yn eu 19 o gemau diwethaf ar Ddydd Gwener y Groglith.

 

Mae Bersant Celina yn sâl, ond fe allai’r amddiffynnwr canol ifanc lleol, Joe Rodon ddechrau gêm am y tro cyntaf ers tri mis, ar ôl torri ei droed ym mis Ionawr.

 

Mae’r capten Leroy Fer wedi dechrau ymarfer eto ar ôl gwella o anaf i linyn y gâr.

 

O safbwynt yr ymwelwyr, mae Darren Potter allan ag anaf i’w goes, ond gallai Billy Jones ddychwelyd ar ôl gwella o anaf i linyn y gâr.