Doedd golwr Cymru a Crystal Palace, Wayne Hennessey, “ddim yn gwybod beth oedd saliwt Natsiaidd” pan gafodd ei gyhuddo o wneud arwydd sarhaus, yn ôl panel Asiantaeth Bêl-droed.

Cafodd Wayne Hennessey, 32, ei ganfod yn ddieuog fis yma a ni fydd cosb yn mynd ei ffordd.

Yn ôl y panel, roedd o wedi dangos “gradd o anwybodaeth druenus” am Adolf Hitler, ffasgiaeth a’r gyfundrefn Natsïaidd.

Cafodd Wayne Hennessey ei gyhuddo o wneud y saliwt gyda’i fraich dde a’i lawr o dan ei drwyn mewn llun a roddodd ei gyd-chwaraewr Almaenef, Max Mayer, ar Instagram ar ôl ennill yn erbyn Grimsby ar Ionawr 5.

“Cyd-ddigwyddiad llwyr” oedd hi yn ôl y golwr, wnaeth wadu pob cyhuddiad.

Dywed dau oedd ar y panel o dri bod y llun wedi cael eu “gamddehongli”, a dywedodd y trydydd mai’r unig esboniad credadwy oedd bod Wayne Hennessey wedi gwneud y saliwt.

Yn ôl y panel roedd gan Asiantaeth Bêl-droed Lloegr “gyfiawnhad llwyr” wrth godi’r achos ond “yn hytrach na rhoi cyfarchiad Natsïaidd, rydym yn credu ei bod yn fwy tebygol bod Wayne Hennessey, fel y dywedai, yn ceisio gweiddi a dal sylw’r gweinydd.”