Burnley 2–0 Caerdydd                                                                      

Mae gobeithion Caeryddd o aros yn Uwch Gynghrair Lloegr yn dechrau diflannu wedi iddynt golli oddi cartref yn erbyn Burnley yn Turf Moor brynhawn Sadwrn.

Aeth penderfyniadau dadleuol yn erbyn yr Adar Gleision unwaith eto wrth i goliau Chris Wood eu rhoi gam yn nes at ddychwelyd i’r Bencampwriaeth y tymor nesaf.

Burnley a ddechreuodd orau a bu bron iddynt fynd ar y blaen wedi dim ond dau funud pan beniodd Wood yn erbyn y postyn.

Fe wnaeth y gŵr o Seland Newydd yn iawn am ei fethiant cynharach wrth agor y sgorio wedi hanner awr gyda pheniad rhydd o gic gornel Dwight McNeil.

Roedd Ashley Westwood eisoes wedi methu un cyfle da un-ar-un yn erbyn Neil Etheridge yn gynharach yn yr hanner cyn i gôl-geidwad Caerdydd gael y gorau arno eto a’i atal rhag dyblu mantais y tîm cartref cyn yr egwyl.

Yna, cafwyd drama ar ddechrau’r ail hanner wedi i amddiffynnwr Burnley, Ben Mee, lawio yn y cwrt cosbi. Pwyntiodd y dyfarnwr, Mike Dean, at y smotyn cyn newid ei feddwl ar ôl trafod gyda’r dyfarnwr cynorthwyol!

Er gwaethaf y siom, fe ymatebodd yr Adar Gleision yn dda gyda Harry Arter yn taro’r trawst ychydig funudau’n ddiweddarach.

Parhau i frwydro a wnaeth Caerdydd wedi hynny ac fe allant fod wedi cael cic o’r smotyn unwaith eto ym munud olaf y gêm pan lawiodd James Tarkowski yn y cwrt cosbi, ond anwybyddu’r protestiadau a wnaeth Dean.

Ac roedd gobeithion yr Adar Gleision drosodd funud yn ddiweddarach wedi i Wood rwydo ei ail yn y pen arall yn dilyn rhagor o waith da gan yr asgellwr ifanc, McNeil.

Mae’r canlyniad yn rhoi Burnley’n ddiogel ac yn gadael Caerdydd yn y deunawfed safle gyda dim ond pump gêm ar ôl. Mae buddugoliaeth Southampton yn erbyn Wolves yn golygu mai dal Brighton, sydd bump pwynt o’u blaennau, yw unig obaith realistig Caerydd o aros i fyny bellach. Golyga hynny fod y gêm rhwng y ddau dîm nos Fawrth yn holl bwysig.

.

Burnley

Tîm: Heaton, Lowton, Tarkowski, Mee, Taylor, Hendrick, Westwood, Cook, McNeil, Barnes, Wood

Goliau: Wood 31’, 90+2’

Cardiau Melyn: Tarkowski 42’, Barnes 45+2’

 

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Morrison, Ecuele Manga, Bennett, Gunnarsson, Arter (Reid 81′), Murphy, Camarasa, Hoilett (Mendez-Laing 73′), Zohore (Niasse 78′)

Cardiau Melyn: Bennett 45+1’, Peltier 50′, Arter 50, Camarasa 82′

.

Torf: 21,480