Dydy Zinedine Zidane, rheolwr Real Madrid, ddim wedi cynnig unrhyw fath o sicrwydd tros ddyfodol Gareth Bale, ar ôl i’r Cymro gael ei feirniadu gan y dorf yn ystod y gêm yn erbyn Eibar yn Bernabeu.

Sgoriodd Karim Benzema ddwywaith yn yr hanner cyntaf ar ôl i Eibar fynd ar y blaen drwy Marc Cardona ar ôl 38 munud.

Ond roedd y dorf yn anfodlon â pherfformiad Gareth Bale, ac fe ddangoson nhw hynny wrth i’r chwaraewyr adael y cae ar yr hanner.

“Gawn ni weld,” oedd ymateb y rheolwr i’r ansicrwydd ynghylch dyfodol y Cymro.

“Chwaraewr Real Madrid yw Gareth, ac mae ganddo fe ddwy flynedd yn weddill o’i gytundeb.”

Deall y rhwystredigaeth

Mae Zinedine Zidane yn dweud ei fod yn deall rhwystredigaeth y cefnogwyr.

“Dydyn ni ddim yn hapus am y chwibanu, ond mae’r cyhoedd yn dod i weld eu tîm yn gwneud yn dda.

“Roedd yna ymateb ac rwy’n wynebu hynny, mae’r cyhoedd yn gwybod fod y tymor ar ben, a’n bod ni’n chwarae er mwyn ceisio gorffen yn ail.

“Roedd rhaid i ni newid ein perfformiad oherwydd allwn ni ddim parhau fel y gwnaethon ni yn ystod yr hanner cyntaf.”