Abertawe 3–1 Middlesbrough                                                      

Cafodd Abertawe fuddugoliaeth gyfforddus wrth groesawu Middlesbrough i’r Liberty yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Grimes, Routledge a Roberts a gafodd goliau’r Elyrch wrth iddynt ennill eu pumed gêm gynghrair gartref yn olynol.

Abertawe a ddechreuodd orau ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen ddeuddeg munud cyn yr egwyl gyda chic o’r smotyn Matt Grimes. Roedd Dan James yn profi’n lond llaw i amddiffyn Middlesbrough ac fe sgoriodd Grimes o ddeuddeg llath wedi i Ryan Shotton lorio asgellwr ifanc Cymru yn y cwrt cosbi.

Dyblodd yr Elyrch eu mantais bedwar munud yn unig yn ddiweddarch, Wayne Routledge yn gorffen gydag ergyd isel dda ar ôl cael ei ryddhau gan Bersant Celina.

Celina a greodd drydedd y tîm cartref i sicrhau’r fuddugoliaeth ugain munud o’r diwedd hefyd, yn canfod Connor Roberts wrth y postyn pellaf y tro hwn a chefnwr Cymru’n gorffen yn gelfydd ar y foli.

Golygodd hynny mai gôl gysur yn unig a oedd foli hwyr George Saville i’r ymwelwyr.

Mea’r canlyniad yn codi tîm Graham Potter i’r trydedd safle ar ddeg yn y tabl.

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Roberts, van der Hoorn (Rodon 79’), Carter-Vickers, Byers, Grimes, Dyer, Celina, James (Narsingh 69’), Routledge (Asoro 68’)

Goliau: Grimes [c.o.s.] 34’, Routledge 38’, Roberts 71’

Cerdyn Melyn: Grimes 21’

 

.

Middlesbrough

Tîm: Randolph, Fry, Ayala, Flint, Friend (Shotton 32’), Saville, Downing, Clayton (Fletcher 55’), Mikel, Howson, Hugill (Assombalonga 55’)

Gôl: Saville 81’

Cerdyn Melyn: Howson 90+3’

.

Torf: 18,171