Wrecsam 3–1 Braintree                                                                   

Daeth rhediad siomedig Wrecsam yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr i ben wrth iddynt groesawu Braintree i’r Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Cadwodd y Dreigiau, a oedd wedi colli eu pedair ddiwethaf, eu gobeithion main o ennill y gynghrair yn fyw diolch i ddwy gôl mewn cyfnod o wyth munud yn yr ail hanner.

Aeth Wrecsam ar y blaen wedi deunaw munud, Bobby Grant yn sgorio wedi gwaith creu Shaun Pearson.

Roedd yr ymwelwyr yn gyfartal erbyn yr egwyl serch hynny diolch i gôl flêr Korrey Henry.

Adferodd y capten, Pearson, fantais y Dreigiau ar yr awr gyda pheniad o gic gornel, cyn i Akil Wright ychwanegu’r drydedd gyda pheniad arall saith munud yn ddiweddarach, o gic rydd Luke Young y tro hwn.

Mae tîm Bryan Hughes yn aros yn bedwerydd er gwaethaf y tri phwynt ond mae pethau’n tynhau tua’r brig yn dilyn gêm gyfartal i Leyton Orient yn erbyn Halifax. Salford sydd bellach ar y brig a phedwar pwynt yn unig sydd yn gwahanu’r pedwar uchaf gyda phedair gêm i fynd.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Roberts, Person, Rutherford, Holroyd, Young, Carrington, Wright, Beavon (Oswell 71’), Lawlor (Kennedy 9’), Grant (Jennings 84’)

Goliau: Grant 18’, Pearson 60’, Wright 67’

Cerdyn Melyn: Young 34’

 

.

Braintree

Tîm: Killip, Eleftheriou, Lyons-Foster, Henry, Eyoma, Richards, Matsuzaka (Borg 45’), Sagaf (Smith 90’), Atkinson, Allen

Gôl: Henry 41’

Cardiau Melyn: Matsuzaka 22’, Allen 43’

.

Torf: 4,221