Fe fydd tîm pêl-droed Abertawe’n gobeithio adeiladu ar y fuddugoliaeth swmpus o 3-0 dros Brentford ganol yr wythnos, wrth iddyn nhw groesawu Middlesbrough i Stadiwm Liberty yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 6).

Daeth y fuddugoliaeth â rhediad hesb o bedair gêm i ben i’r Elyrch, er i’r perfformiadau blaenorol ddangos cryn addewid ar ôl y siom o golli o 3-2 yn erbyn Manchester City yng Nghwpan FA Lloegr.

Mae Middlesbrough, yn y cyfamser, wedi gostwng islaw safleoedd y gemau ail gyfle ar ôl colli pum gêm o’r bron o dan y Cymro Tony Pulis – mae’n 19 o flynyddoedd ers iddyn nhw golli chwe gêm yn olynol.

Gêm ddi-sgôr gafwyd rhwng y ddau dîm yn Stadiwm Riverside ddechrau’r tymor, ac mae amddiffyn yr ymwelwyr yn debygol o fod yn gadarn unwaith eto heddiw. Maen nhw wedi ildio 33 gôl yn unig yn eu 39 gêm hyd yn hyn yn y gynghrair.

Dim ond unwaith mae’r Elyrch wedi colli yn erbyn Middlesbrough yn eu saith gêm ddiwethaf, ac fe fydd angen buddugoliaeth os ydyn nhw am gadw eu gobeithion tila o gyrraedd y gemau ail gyfle’n fyw.

Dydy’r Elyrch ddim wedi ennill pedair gêm gynghrair gartref o’r bron ers mis Mawrth y llynedd.

Y timau

Mae disgwyl i Graham Potter, rheolwr Abertawe, enwi’r un garfan ar gyfer y gêm.

Ond mae’n bosib y gallai Joe Rodon, yr amddiffynnwr lleol ifanc, gael ei gynnwys am y tro cyntaf ers iddo ddychwelyd ar ôl torri asgwrn yn ei droed.

Mae Erwin Mulder (bys), Leroy Fer (llinyn y gâr) a Martin Olsson (gweyllen ffêr) allan o hyd.

Rheolwyr yn parchu’i gilydd

“Bydd Middlesbrough yn cynnig her wahanol i Brentford, felly mae angen i ni fod yn barod ar gyfer hynny a dw i’n sicr fod y bois yn edrych ymlaen at y gêm,” meddai Graham Potter.

“Dw i’n credu bod Middlesbrough wedi bod ychydig yn anlwcus.

“Dydyn nhw ddim wedi manteisio ar eu cyfleoedd, ac wedi cael eu cosbi ar amryw adegau.

“Mae Tony [Pulis] yn brofiadol dros ben, a dw i’n sicr y byddan nhw’n taro’n ôl.

“Mae gen i lawer o barch at Tony a’r hyn mae e wedi’i wneud.”

“Daeth Abertawe i lawr a phenderfynu mynd o gwmpas eu pethau mewn ffordd wahanol i glybiau eraill, ac maen nhw wedi dod â Graham [Potter] i mewn a rhoi amser iddo adeiladu.

“Mae’r bobol yn fan hyn yn ei hoffi fe a’r ffordd mae e’n mynd o gwmpas ei bethau.

“Mae e wedi dod â hunaniaeth a ffordd o chwarae i’r tîm.

“Bydd hi’n gêm anodd.

“O blith y saith gêm sydd gyda ni, fe all fod mai hon yw’r un fwyaf anodd.”