Man City 2–0 Caerdydd                                                                   

Colli fu hanes Caerdydd wrth iddynt deithio i’r Etihad i wynebu Man City yn Uwch Gynghrair Lloegr nos Fawrth.

Sgoriodd Kevin De Bruyne a Leroy Sane yn yr hanner cyntaf i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i’r pencampwyr.

Chwe munud yn unig a oedd ar y cloc pan agorodd De Bruyne’r sgorio gydag ergyd gadarn o ongl dynn, yn curo Neil Etheridge yn rhy rhwydd ar ei bostyn agosaf.

Rheolodd y tîm cartref y tir a’r meddiant wedi hynny ond bu rhaid iddynt aros tan funud cyn yr egwyl am yr ail gôl, Sane’s sgorio gydag ergyd isel gywir wedi cyffyrddiad hyfryd Gabriel Jesus i’w lwbr ar ochr y cwrt cosbi.

Parhau i bwyso ar gôl Caerdydd a wnaeth Man City yn yr ail hanner ond gwnaeth Etheridge yn iawn am ei gamgymeriad cynharach gyda sawl arbediad. A phan gafodd y golwr ei guro, daeth y postyn i’r adwy i atal Phil Foden rhag ychwanegu trydedd.

Daeth cyfle gorau’r Adar Gleision i Oumar Niasse wedi gwrthymosodiad chwim bum munud o’r diwedd ond cafodd ei atal un-ar-un gan Ederson yn y gôl.

Mae’r canlyniad yn codi Man City i frig y tabl ond yn gadael Cerdydd yn safleoedd y cwymp, bump pwynt o ddiogelwch gyda chwech gêm i fynd.

.

Man City

Tîm: Ederson, Danilo, Stones, Laporte, Zinchenko(Walker 19’), De Bruyne, Fernandinho, Foden, Mahrez, Gabriel Jesus, Sane

Goliau: De Bruyne 6’, Sane 44’

 

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Morrison, Ecuele Manga, Bennett, Murphy (Mendez-Laing 60’), Gunnarsson (Bacuna 81’), Ralls, Hoilett, Camarasa (Reid 83’), Niasse

Cardiau Melyn: Bennett 8’ Peltier Ralls

.

Torf: 53,559