Mae Neil Warnock wedi galw swyddogion yr Uwch Gynghrair “y gwaethaf yn y byd” ar ôl i’r Adar Gleision golli yn erbyn Chelsea mewn gem ddramatig dros y penwythnos.

Roedd Caerdydd ar y blaen tan i César Azilicueta benio’r bêl i’r rhwyd gyda phum munud yn weddill o’r gêm.

Doedd rheolwr Caerdydd ddim yn fodlon gyda’r canlyniad oherwydd iddi ymddangos bod amddiffynnwr Chelsea yn camsefyll.

Roedd y tîm cartref yn teimlo eu bod nhw wedi cael cam pellach ar ôl i’r dyfarnwr, Craig Pawson, ddangos cerdyn melyn, yn hytrach nag un coch, i Antonio Rüdiger wedi iddo dynnu Kenneth Zohore i’r llawr pan oedd yn wynebu’r golwr.

Mae Neil Warnock hefyd wedi beirniadu’r ffaith na chafodd Chelsea eu cosbi ar ôl i chwaraewyr ddal crys Sean Morrison ar ddau achlysur gwahanol.

“Erbyn hyn heddiw, mae’r cyfan yn ymwneud â phwy yw’r reffarï a phwy sy’n dal y fflag, yn hytrach na phwy rydych chi’n ei chwarae,” meddai Neil Warnock.

“Dyma’r gynghrair orau yn y byd gyda’r swyddogion gwaethaf ar hyn o bryd.”

Mae rheolwr Chelsea, Maurizio Sarri, wedi dweud bod ei glwb yn “haeddu ennill”.