Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi creu hanes wrth iddyn nhw werthu dros fil o docynnau i’w gêm gyfeillgar yn erbyn y Weriniaeth Tsiec.

Dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd mewn gêm gyfeillgar i dîm merched Cymru, fydd yn chwarae o flaen torf fawr yn y Rodney Parade, Casnewydd, ddydd Iau nesaf.

Bu’r rheolwr Jayne Ludlow yn cyhoeddi ei charfan o 20 chwaraewr heddiw (Dydd Gwener, Mawrth 29).

Mae’r amddiffynnwr profiadol Loren Dykes wedi ei chynnwys wrth iddi edrych iddi lygadu canfed cap tros ei gwlad – camp gafodd ei gwireddu gan Jess Fishlock yn 2017.

Ar ôl methu’r gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon oherwydd anafiadau, mae Elise Hughes – chwaraewr ifanc y flwyddyn 2019 –  ac Anna Filbey hefyd yn ôl yn y garfan.