Mae tîm pêl-droed Cymru gam yn nes at gymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth Ewro 2020 ar ôl ennill o 1-0 yn erbyn Slofacia.

Fe sgoriodd Dan James wedi pum munud o chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Gareth Bale oedd capten y tîm ar ôl i Ashley Williams gael ei enwi ar y fainc.

Fe fydd y tîm nawr yn chwarae Croatia ym mis Mehefin.