Mae Pep Guardiola, rheolwr Manchester City, wedi ymddiheuro wrth dîm pêl-droed Abertawe am y camgymeriadau gan y dyfarnwyr a arweiniodd at eu buddugoliaeth o 3-2 dros Abertawe.

Doedd dim VAR – y defnydd o fideo – ar gael yn Stadiwm Liberty neithiwr, wrth i’r dyfarnwyr ar y cae wneud dau gamgymeriad allweddol.

Er bod Abertawe ar y blaen o 2-0 ar ôl 69 munud, sgoriodd Manchester City ddwy gôl na ddylid bod wedi eu caniatáu.

Cafodd yr ymwelwyr gic o’r smotyn 12 munud cyn y diwedd ar ôl i Raheem Sterling gwympo i’r llawr, ond penderfynodd y dyfarnwr Andre Marriner fod Cameron Carter-Vickers, amddiffynnwr Abertawe, wedi ei lorio er ei fod e wedi ennill y bêl.

Ac roedd Sergio Aguero yn camsefyll pan rwydodd y gôl fuddugol ddwy funud cyn y chwiban olaf.

Mae’n debygol iawn na fyddai’r naill gôl na’r llall wedi sefyll pe bai fideo ar gael.

“Rhaid i chi ofyn i’r awdurdodau pam nad oes VAR,” meddai Pep Guardiola.

“Mae e yno o’n cwmpas ni, ond dydy e ddim yma.

“Os nad oedd yn gic o’r smotyn a bod y llall yn gamsefyll, yna sori.

“Dw i ddim yn hoffi ennill gemau pan fo penderfyniadau’n anghywir.

“Dydy hynny ddim yn hawdd.”

Ymateb Abertawe

Yn ôl Abertawe, mae Stadiwm Liberty yn addas ar gyfer VAR, sydd wedi cael ei ddefnyddio yno yn y gorffennol, pan oedd y clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr rhwng 2011 a 2018.

Y gêm hon oedd yr unig gêm yn rownd wyth olaf Cwpan FA Lloegr lle nad oedd fideo ar gael, serch hynny.

“Rydyn ni yn y tywyllwch ein hunain tros y diffyg defnydd o VAR yma, ac y byddai’n cael ei ddefnyddio yng nghaeau’r Uwch Gynghrair yn unig,” meddai llefarydd.

“Mae’n ymddangos braidd yn rhyfedd o ystyried ein bod ni [yn yr Uwch Gynghrair] am saith mlynedd a bod y dechnoleg yn cael ei rhoi yma i’w defnyddio.”