West Brom 3–0 Abertawe
Colli fu hanes Abertawe wrth iddynt deithio i’r Hawthorns i wynebu West Bromwich Albion yn y Bencampwriaeth nos Fercher.
Mae’r canlyniad yn fwy neu lai yn dod â gobeithion main yr Elyrch o gyrraedd y gemau ail gyfle i ben.
Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi deunaw munud pan grymanodd cic rydd lydan Chris Brunt heibio i bawb yn y cwrt chwech cyn canfod ei ffordd i’r gornel isaf.
Cafodd yr Elyrch gyfle euraidd i unioni pethau o ddeuddeg llath cyn yr egwyl yn dilyn trosedd ar Mike van der Hoorn yn y cwrt cosbi, ond gwnaeth Bersant Celina lanast llwyr o’r gic o’r smotyn.
Dyblodd West Brom eu mantais yn gynnar yn yr ail hanner gyda pheniad Mason Holgate o gic gornel a rhoddwyd y canlyniad y tu hwnt i unrhyw amheuaeth chwe munud o’r diwedd pan rwydodd Jay Rodriguez o bêl rydd yn y cwrt cosbi.
Mae’r golled yn rhoi tîm Graham Potter yn bymthegfed yn y tabl, naw pwynt o safleoedd y gemau ail gyfle gyda deg gêm yn weddill.
.
West Brom
Tîm: Johnstone, Holgate (Mears 80’), Dawson (Bartley 60’), Hegazi, Townsend, Harper, Brunt, Livermore, Gayle, Rodriguez, Murphy (Robson-Kanu 69’)
Goliau: Brunt 19’, Holgate 54’, Rodriguez 85’
.
Abertawe
Tîm: Nordfelt, Roberts, van der Hoorn, Carter-Vockers, Naughton (McKay 70’), Byers, Grimes, Dyer (Dhanda 80’), Celina, Routledge (Baker-Richardson 73’), James
.
Torf: 20,282