Mae adroddiadau bod Clwb Pêl-droed Abertawe ar fin penodi Trevor Birch yn gadeirydd i olynu Huw Jenkins.

Gadawodd Huw Jenkins ei swydd fis diwethaf, yn dilyn pryderon am werthu chwaraewyr yn ystod y ffenest drosglwyddo fis Ionawr.

Bellach, mae’n edrych yn debygol fod y clwb am droi at rywun sydd wedi llwyddo i achub Chelsea, Leeds Portsmouth, Bolton ac Aston Villa.

Mae’n gweithio i gwmni Duff & Phelps, yr ymgynghorwyr ariannol, ac mae hefyd yn gyn-chwaraewr.

Mae lle i gredu y gallai arwain y broses o ail-strwythuro’r clwb yn dilyn ymadawiad Huw Jenkins, ac y gallai Cyfarwyddwr Pêl-droed gael ei benodi i ofalu am drosglwyddiadau.

Mae’r ail-strwythuro honedig yn codi cwestiynau unwaith eto am ddyfodol nifer o chwaraewyr, gan gynnwys Daniel James, oedd wedi cael ei atal rhag symud at Leeds ym mis Ionawr.

Mae Trevor Birch yn dueddol o ymuno â chlybiau am gyfnodau byr cyn gadael, ond mae disgwyl iddo aros yn Abertawe yn y tymor hir.