Y Barri 3–2 Cambrian a Clydach                                                    

Mae’r Barri yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru ar ôl trechu Cambrian a Clydach yn yr wyth olaf ar Barc Jenner nos Sadwrn.

Sgoriodd Kayne McLaggon hatric i’w hennill hi i’r tîm Uwch Gynghrair yn erbyn eu gwrthwynebwyr o un gynghrair yn is.

Hanner Cyntaf

Y Barri a ddechreuodd orau ac roeddynt ar y blaen wedi dim ond wyth munud diolch i gôl gyntaf McLaggon, yr ymosodwr yn gwneud yn dda i wyro cic rydd ddieflig Jordan Cotterill i gefn y rhwyd.

Parhau i reoli a wnaeth y tîm cartref wedi hynny ond roeddynt yn wastraffus yn nhraean ymosodol y cae.

A chawsant eu cosbi gan gôl yn erbyn llif y chwarae wedi hanner awr, peniad postyn pellaf Mark Crutch o gic rydd gywir Cameron Keetch yn curo Mike Lewis ac yn unioni’r sgôr.

Cafwyd arbediad da gan Dan Bradley i atal Momodou Touray yn y pen arall wedi hynny cyn i Sam Jones roi’r ymwelwyr ar y blaen. Torodd y blaenwr y trap camsefyll cyn mynd heibio i Lewis yn y gôl a gosod y bêl mewn rhwyd wag.

Daeth cyfle gwych i’r Barri unioni wrth i’r hanner orffen yn hynod gyffrous ac er y dylai Jonathan Hood fod wedi sgorio fe wnaeth Joe Evans yn dda i glirio’r bêl oddi ar y llinell.

Ail Hanner

Cambrian a Clydach ar y blaen ar yr egwyl felly ond dechreuodd yr ail hanner, fel y cyntaf, gyda’r Barri’n rheoli. Ond roedd y tîm o’r Uwch Gynghrair yn wastraffus o flaen gôl, anelodd McLaggon un cyfle da dros y bar a Cotterill un arall heibio’r postyn.

Fe ddaeth y gôl i’r Barri yn y diwedd serch hynny, wedi ugain munud o’r ail hanner. Cic rydd arall gan Cotterill a arweiniodd ati a McLaggon yn sgorio eto, gyda’i ben y tro hwn.

Yr un cyfuniad a enillodd y gêm i’r tîm cartref chwarter awr o ddiwedd y naw deg hefyd, Cotterill yn creu a McLaggon yn rhwydo, o chwarae agored y tro hwn wrth i Cotterill fwydo’r blaenwr ar ochr y cwrt cosbi cyn i yntau wneud y gweddill.

Bu rhaid i’r Barri amddiffyn tipyn yn y munudau olaf ond fe wnaethant hynny’n ddigon cyfforddus mewn gwirionedd.

Tîm Gavin Chesterfield felly sydd yn ymuno â Chei Connah, Y Seintiau Newydd a Met Caerdydd yn y rownd gynderfynol.

.

Y Barri

Tîm: Lewis, Morgan (Fahiya 62’), Hugh, Cooper, Watkins, Patten, McLaggon (Abbruzzese 90+2’), Touray, Cotterill, Hood (Greening 62’), Green

Goliau: McLaggon 30’, 66’, 75’

Cardiau Melyn: Cotterill 44’, Green 45+3’

.

Cambrian a Clydach

Tîm: Bradley, Evans, Keetch (Thomas 71’), Crutch, coles, Griffiths (Owen 64’), Jones, Strinati, Reed, Edwards (French 71’), Jones

Goliau: Crutch 30’, S. Jones 41’

Cardiau Melyn: Keetch 20’, Crutch 40’, Strinati 44’, K. Jones 51’, Evans 73’, Owen 90’, Thomas 90+1’

.

Torf: i ddilyn