Casnewydd 2–0 Carlisle                                                                   

Mae gobeithion main Casnewydd o gyrraedd gemau ail gyfle’r Ail Adran yn fyw o hyd wedi iddynt drechu Carlisle ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Azeez ac Amond a gafodd y goliau pwysig a chafwyd perfformiad da gan Day yn y gôl wrth iddynt gadw llechen lân yn y pen arall.

Roedd llai na chwarter awr ar y cloc pan sgoridd Ade Azeez gyda pheniad o gic rydd Matty Dolan.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond fe ddyblodd Padraig Amond y fantais hanner ffordd trwy’r ail hanner, y prif sgoriwr yn rhwydo o groesiad Josh Sheehan.

Arbedodd Joe Day gic o’r smotyn Danny Grainger dri munud o’r diwedd wrth i’r tîm cartref ddal eu gafael ar y lechen lân a’r tri phwynt.

Mae’r canlyniad yn rhoi tîm Mike Flynn yn ddeuddegfed gyda deuddeg gêm i fynd, bump pwynt o’r safleoedd ail gyfle.

.

Casnewydd

Tîm: Day, O’Brien, Poole, Demetriou, Butler, Dolan (Sheehan 31’), Bennett, Willmott, Amond, Matt (Labadie 74’), Azeez (McKirdy 84’)

Goliau: Azeez 14’, Amond 67’

Cardiau Melyn: Sheehan 44’, Labadie 85’

.

Carlisle

Tîm: Collin, Grainger, Gerrard, Parkes, Liddle, slater, O’Hare, Etuhu (Thomas 68’), Scougall, Hope (McCarron 86’), Cullen

Cardiau Melyn: A Gerrard 59’, Thomas 90+2’

.

Torf: 3,432