Fydd Santiago Solari, rheolwr tîm pêl-droed Real Madrid, ddim yn annog cefnogwyr y clwb i roi croeso cynnes i Gareth Bale wrth i’r tîm herio Barcelona yn y Bernabeu heno (nos Sadwrn, Mawrth 2).

Fe fu’r Cymro dan y lach yn ddiweddar, ac fe wrthododd ddathlu cic o’r smotyn yn erbyn Levante yr wythnos ddiwethaf, gan awgrymu bod y berthynas rhyngddo fe, y cefnogwyr a’i gyd-chwaraewyr wedi suro.

Fe fu’n ymddangos fel eilydd ers mis Ionawr, ar ôl gwella o anaf i’w goes.

“Does gyda fi ddim byd i’w ddweud wrth y cefnogwyr,” meddai’r rheolwr.

“Mae pawb yn adnabod Gareth ac yn gwybod yr hyn mae e wedi’i roi i’r clwb hwn.

“Mae’r cefnogwyr yn y Bernabeu yn barchus iawn.”

Dydy hi ddim glir ar hyn o bryd a fydd Gareth Bale yn dechrau’r gêm neu’n cael ei enwi ymhlith yr eilyddion.