Gateshead 1 – 1 Wrecsam                                                                

Ymestynnodd Wrecsam eu mantais ar frig Cyngrhair Genedlaethol Lloegr gyda gêm gyfartal oddi cartref yn Stadiwm Rhyngwladol Gateshead brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Cole Stockton gôl yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm wrth i’r Dreigiau gipio pwynt yng ngogledd ddwyrain Lloegr.

Gateshead a oedd ar y blaen ar hanner amser diolch i gôl Steven Rigg bum munud cyn yr egwyl, yn penio i mewn ar yr ail gynnig wedi i Christian Dibble arbed ei gynnig gwreiddiol.

Felly yr arhosodd hi tan y trydydd munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm pan gipiodd Stockton bwynt i’r Cymry.

Mae’r canlyniad yn ymestyn mantais Wrecsm ar frig y tabl i ddau bwynt gan mai hwy a oedd yr unig un o’r pedwar uchaf i chwarae.

.

Gateshead

Tîm: Pears, Tinkler, Kerr, White, Mellish, Williamson, Barrow, Olley (Hunter 80’), Forbes, Thomson (Salkeld 84’), Rigg

Gôl: Rigg 40

Cerdyn Melyn: White 86’

.

Wrecsam

Tîm: Dibble, Jennings, Kennedy, Carrington (Stockton 77’), Young, Rutherford, Wright (Deverdics 69’), Lawlor, Tollitt (Holroyd 77’), Oswell

Gôl: Stockton 90+3’

Cerdyn Melyn: Wright 64’

.

Torf: 1,228