Sheffield Wednesday 3 – 1 Abertawe                                          

Colli fu hanes Abertawe wrth iddynt deithio i Hillsborough i wynebu Sheffield Wednesday yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.

Rhoddodd goliau Adam Reach (2) a Steven Fletcher fantais gyfforddus i’r tîm cartref ar yr egwyl cyn i Oli McBurnie dynnu un yn ôl yn yr ail hanner.

Agorodd Reach y sgôr mewn steil wedi deg munud, yn crymanu ergyd hyfryd i gefn y rhwyd.

Dyblodd Reach y fantais gyda’i ail ef wedi hanner awr cyn i ymdrech acrobataidd Fletcher ymestyn y fantais i dair dri munud cyn yr egywl.

Roedd Abertawe’n well yn yr ail hanner ac er i beniad McBurnie roi llygedyn o obaith i’r Elyrch ugain munud o’r diwedd, rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi wrth i’r Tylluanod ddal eu gafael.

Mae’r canlyniad yn gadael Abertawe’n ddeuddegfed yn y tabl, naw pwynt o’r safleoedd ail gyfle.

.

Sheffield Wednesday

Tîm: Westwood, Palmer, Lees, Hector, Lazaar, Reach, Hutchinson, Bannan, Aarons (Matias 64’), Lucas Joao (Iorfa 58’), Fletcher (Pelupeddy 88’)

Goliau: Reach 11’, 32’, Fletcher 42’

Cerdyn Melyn: Matias 66’

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Roberts (McKay 87’), van der Hoorn, Carter-Vickers, John (Routledge 45’), Naughton (Baker-Richardson 78’), Byers, Grimes, McBurnie, Celina, James

Gôl: McBurnie 69’

.

Torf: 22,935