Caerdydd 1–5 Watford                                                                     

Cafodd Caerdydd gweir go iawn wrth iddynt groesawu Watford i Stadiwm y Ddinas yn Uwch Gynghrair Lloegr nos Wener.

Dechreuodd yr ymwelwyr y gêm yn wythfed yn y tabl ac roedd y gagendor rhwng y timau yn amlwg wrth i’r Adar Gleision ildio pump, hatric i Gerard Deulofeu a dwy i Troy Deeney.

Rhoddodd Deulofeu Watford ar y blaen wedi deunaw munud yn dilyn camgymeriad amddiffynnol Bruno Ecuele Manga

Felly yr arhosodd hi tan yr awr cyn i Deulofeu gwblhau ei hatric gyda dwy gôl mewn dau funud. Gwrthymosodiad chwim a arweiniodd at y gyntaf a chamgymeriad Harry Arter at yr ail.

Ar ôl sgorio’r dair gyntaf ei hun, fe greodd Deulofeu y bedwaredd i Deeney ddeunaw munud o’r diwedd cyn i Sol Bamba rwydo gôl gysur i Gaerdydd.

Adferodd Deeney bedair gôl o fantais Watford yn yr amser a ganiateir am anafiadau, yn gorffen y sgorio o groesiad Will Hughes.

Mae tîm Neil Warnock yn aros yn yr ail safle ar bymtheg er gwaethaf y golled ond byddant yn gorffen y penwythnos yn safleoedd y gwymp os y caiff Southampton bwynt neu fwy oddi cartref yn erbyn Arsenal.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Bacuna, Arter, Ralls (Mendez-Laing 67’), Bennett, Paterson, Niasse (Zohore 71’), Murphy (Hoilett 56’)

Gôl: Bamba 82’

Cerdyn Melyn: Paterson 85’

.

Watford

Tîm: Foster, Janmaat, Mariappa, Cathcart, Masina, Doucore, Capoue (Cleverley 79’), Hughes, Pereyra (Quina 71’), Deulofeu (Grey 86’), Deeney

Goliau: Deulofeu 18’, 61’, 63’, Deeney 73’, 90+1’

Cardiau Melyn: Capoue 30’, Pereyra 55’

.

Torf: 30,387