Curo Brentford, ac nid yr arian a fydd yn dod yn sgil hynny, sy’n bwysig i Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, sy’n herio Brentford yng Nghwpan FA Lloegr yn Stadiwm Liberty fory (dydd Sul, Chwefror 17).

Mae’r Elyrch yn wynebu trafferthion ariannol ers iddyn nhw gwympo o Uwch Gynghrair Lloegr y tymor diwethaf, ac fe gawson nhw ffenest drosglwyddo rwystredig fis diwethaf heb lwyddo i ddenu’r un chwaraewr newydd i’r clwb.

Maen nhw wedi colli 16 o chwaraewyr ers y gwymp, gan ddibynnu’n helaeth erbyn hyn ar y to iau.

Fe ddaeth y cyfan i fwcwl pan ymddiswyddodd y cadeirydd Huw Jenkins yn sgil y sefyllfa, wrth i brotestiadau’r Cefnogwyr yn erbyn y perchnogion Americanaidd, Steve Kaplan a Jason Levien barhau.

“Allwn ni ddim meddwl am yr hyn y gallai ei olygu’n ariannol i’r clwb, na phwy allech chi fod yn eu herio yn y rownd nesaf,” meddai Graham Potter.

“Rhaid i chi feddwl am Brentford yn unig, gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud a chwarae yn erbyn tîm da.”

Brentford

Dydy Brentford ddim wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf ers 1989, pan gollon nhw o 4-0 yn erbyn y pencampwyr Lerpwl.

“Dw i’n gwybod ein bod ni i gyd am greu hanes o’r newydd,” meddai’r rheolwr Thomas Frank.

“Mae yna dudalen wag nawr, gallwn ni fynd i rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf ers 30 o flynyddoedd.

“Dyma gyfle o’r radd flaenaf i gyrraedd rownd yr wyth olaf.”