Does gan Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, “ddim problem” dewis Daniel James ar gyfer y daith i Elland Road, meddai ar drothwy’r gêm yn erbyn Leeds nos Fercher (Chwefror 13, 7.45yh).

Fe fu bron i’r Cymro symud ar fenthyg at Leeds ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo ar Ionawr 31, cyn i’r trafodaethau rhwng y ddau glwb ddod i ben tra ei fod e yn y ddinas yn aros i lofnodi’r cytundeb.

Roedd rhai cefnogwyr wedi digio ei fod e am adael y clwb, a chefnogwyr Leeds yn anhapus ynghylch y tro pedol.

“Bydd e’n mwynhau mynd yno”

Ond yn ôl Graham Potter, mae’r chwaraewr canol cae yn barod i fynd gyda’r Elyrch i ffau’r llewod yn Elland Road.

“A bod yn onest, does gen i ddim pryderon am ei gymeriad o gwbl,” meddai. “Bydd e jyst yn bwrw ymlaen a chwarae pêl-droed, ac yn mwynhau mynd yno.

“Mae chwaraewyr fel fe yn ymateb i’r fath bethau, yn enwedig y rhai sydd â’r gallu i chwarae ar lefel uchel fel sydd gan Dan.

“Ar ddiwedd y dydd, dyw e ddim wedi gwneud unrhyw beth o’i le, a does ganddo fe ddim byd i ymddiheuro amdano fe.

“Mae e’n bêl-droediwr oedd wedi’i gael ei hun mewn sefyllfa anodd. Mae e yma i chwarae pêl-droed ac i wneud ei orau.

“Dw i’n edrych ymlaen at ei wylio fe’n chwarae.”

“Gofal piau hi”

Mae Daniel James yn un o griw ifanc o chwaraewyr sydd wedi cael eu dyrchafu o’r tîm dan 23 oed y tymor hwn yn dilyn ymadawiad nifer o’r hoelion wyth ar ôl i Abertawe ostwng o’r Uwch Gynghrair.

Ac wrth ymdopi â’r her o chwarae tair gêm mewn wythnos, mae Graham Potter yn dweud mai gofal piau hi wrth reoli llwyth gwaith Daniel James a’i gyd-chwaraewyr.

“Roedden ni’n ofalus gyda fe ar y dechrau oherwydd mai dyma ei dymor cynta’ fe, ac mae mynd o ddydd Sadwrn i ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn pan y’ch chi’n addasu i bêl-droed yn y tîm cyntaf ar ôl bod yn y tîm dan 23 oed yn broses mae’n rhaid mynd drwyddi.”

Yn ôl Graham Potter, mae’n bosib y bydd e hefyd yn chwarae yn erbyn Brentford yng Nghwpan FA Lloegr ddydd Sul, ar ôl bod yn chwarae yn erbyn Millwall ddydd Sadwrn diwethaf hefyd.

“Byddwn ni wedi cael digon o amser i ymadfer rhwng dydd Sadwrn a dydd Mercher a bydd gyda ni ddiwrnod ychwanegol hefyd [cyn herio Brentford], felly mae yna siawns y bydd e’n gallu [chwarae yn y tair gêm]. Gawn ni weld.”

Canmol criw ifanc

Mae Graham Potter yn dweud bod ei dîm hyfforddi wedi gweithio’n galed i baratoi’r garfan ifanc ar gyfer gofynion y Bencampwriaeth y tymor hwn.

“Fe gawson nhw dipyn o lwyddiant gyda’i gilydd y tymor diwethaf, ac mae hynny’n creu rhyw fath o feddylfryd lle maen nhw’n deall ei gilydd.

“Mae’r hyfforddwyr wedi gwneud gwaith arbennig gyda nhw. Mae’r bois yn yr Academi wedi gwneud yn arbennig o dda i’w cael nhw i’r pwynt yma.

“Y peth allweddol nawr yw rhoi cyfleoedd iddyn nhw, oherwydd [diffyg cyfleoedd] yn aml sy’n eu hatal nhw rhag cael gyrfa.

“Gallwch chi eu datblygu nhw a’u chwarae nhw mewn gemau ieuenctid, ond os nad oes cyfle wedyn i ddangos beth maen nhw’n gallu ei wneud, mae’n dod yn anodd iawn.

“Dyna ry’n ni wedi llwyddo i’w greu’r tymor hwn a dw i’n falch iawn drostyn nhw eu bod nhw wedi codi gyda’i gilydd ac wedi manteisio ar y cyfle.

“Bydd e’n brofiad da i ni fynd i brofi’n hunain yn erbyn tîm da iawn.”