Abertawe 1–0 Millwall                                                                    

Cafodd Abertawe ddechrau da i fywyd wedi Huw Jenkins gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn Millwall ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

George Byers a sgoriodd unig gôl y gêm wrth i’r Elyrch ennill yn eu gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth ers i’r cadeirydd ymddiswyddo wythnos yn ôl.

Abertawe a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf heb os. Peniodd Mike van der Hoorn gyfle da dros y trawst ac roedd angen arbediad da gan Jordan Archer i atal cic rydd Matt Grimes.

Fe ddaeth gôl haeddiannol i’r tîm cartref yn y diwedd, ddau funud cyn yr egwyl, Byers yn sgorio ar yr ail gynnig gyda chymorth y postyn.

Roedd Millwall yn well wedi’r egwyl ond bu bron i Bersant Celina ddyblu mantais Abertawe pan gafodd ei gynnig deheuig ei glirio oddi ar y llinell.

Mae’r canlyniad yn codi tîm Graham Potter i’r unfed safle ar ddeg yn y tabl, chwe phwynt o’r safleoedd ail gyfle.

.

Abertawe

Tîm: Mulder, Roberts, van ser Hoorn, Carter-Vickers, John (Naughton 60’), Byers, Grimes, Celina, James, Baker-Richardson (McBurnie 70’), Routledge (Fulton 90+4’)

Gôl: Byers 43’

.

Millwall

Tîm: Archer, Romeo, Hutchinson, Cooper, M. Wallace (Ferguson 45’), J. Wallace, Leonard, Williams (Morison 74’), Marshall (O’Brien 84’), Thompson, Gregory

Cardiau Melyn: Marshall 42’, Archer 86’

.

Torf: 18.650