Mae Cynghrair Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Abertawe yn galw ar y cefnogwyr i gadw draw o Stadiwm Liberty ar ddiwrnod gêm nesa’r clwb yng Nghwpan FA Lloegr.

Bydd yr Elyrch yn herio naill ai Barnet neu Brentford ym mhumed rownd y gystadleuaeth ar ddydd Sadwrn, Chwefror 16.

Mae’r Gynghrair Cefnogwyr yn galw am y boicot yn dilyn ymddiswyddiad y cadeirydd Huw Jenkins neithiwr (nos Sadwrn, Chwefror 2), a’r ffordd y mae’r clwb yn cael ei redeg gan y perchnogion Americanaidd, Jason Levien a Steve Kaplan.

Datganiad

“Y cyfan y mae gan y perchnogion ddiddordeb ynddo yw arian, felly gadewch i ni eu bwrw nhw lle bydd yn eu niweidio nhw fwyaf, sef eu pocedi,” meddai datganiad y Gynghrair Cefnogwyr.

“Peidiwch â chael eich twyllo gan brisiau rhad na ‘phlant am bunt’. Mae stadiwm wag heb refeniw yn anfon neges bwerus iawn.

“Dyma ffordd syml o brotestio oherwydd rydyn ni, yn syml iawn, yn gofyn i chi wneud dim byd.

“Gwyliwch y gêm gartref, fydd neb yn meddwl llai ohonoch chi.”

Ond maen nhw’n cyfaddef “tristwch” y sefyllfa, ac yn cydnabod na fyddai’r un brotest “yn plesio pawb”.

“Does dim diben cerdded allan yn ystod y gêm oherwydd mae hynny’n dal yn rhoi arian yn eu pocedi, a fydd dim ots ganddyn nhw.”