Mae Neil Warnock, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud na allai fod yn fwy balch o’i chwaraewyr yn dilyn eu buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Bournemouth neithiwr (nos Sadwrn, Chwefror 3) – eu buddugoliaeth gyntaf yn 2019.

Dyma’r ornest gyntaf i’w chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ers i Emiliano Sala, Archentwr newydd yr Adar Gleision, fynd ar goll wrth deithio ar awyren o Nantes yn Llydaw i Gaerdydd ar Ionawr 21.

Roedd teyrnged i Emiliano Sala a’r peilot David Ibbotson cyn y gêm a gafodd ei hennill diolch i ddwy gôl Bobby Reid yn y pum munud agoriadol.

“Allwn i ddim bod yn fwy balch,” meddai Neil Warnock wedi’r fuddugoliaeth.

“Pe na baen ni’n cael yr un pwynt arall eleni, dw i’n credo bod y chwaraewyr wedi bod yn wych.

“Dw i’n edrych o gwmpas yr ystafell newid, y cymeriadau ac o le maen nhw wedi dod, a dw i’n gwybod na allwn i ofyn am ragor gan yr un ohonyn nhw.”

Er gwaetha’r canlyniad, mae Caerdydd yn dal yn safleoedd y gwymp, yn y deunawfed safle, ddau bwynt y tu ôl i Burnley, Newcastle a Southampton.

Dim ond Newcastle a Huddersfield sydd wedi sgorio llai o goliau na Chaerdydd.