Mae Jason Levien a Steve Kaplan, perchnogion Clwb Pêl-droed Abertawe, yn dweud eu bod yn “gwerthfawrogi” cyfraniad y cadeirydd Huw Jenkins i’r clwb, ond heb ddiolch iddo am ei waith.

Daeth cadarnhad o’i ymddiswyddiad neithiwr (nos Sadwrn, Chwefror 3) yn dilyn y golled o 2-0 yn erbyn Bristol City, ddyddiau’n unig wedi i’r ffenest drosglwyddo gau, heb fod Abertawe wedi arwyddo’r un chwaraewr, gyda nifer o chwaraewyr yn gadael y clwb.

“Mae ymddiswyddiad Huw Jenkins o’i waith fel cadeirydd yn galluogi Abertawe i dynnu llinell o dan gyfnod anodd yn hanes y clwb,” meddai’r Americanwyr mewn datganiad.

Cafodd Huw Jenkins ei benodi yn 2002, gan arwain y clwb i ddiogelwch wrth iddyn nhw wynebu’r perygl o ostwng o’r Gynghrair Bêl droed y tymor canlynol.

Roedd e wrth y llyw hefyd wrth i’r Elyrch symud trwy’r cynghreiriau cyn cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr yn 2011, ac ennill Cwpan Capital One yn 2013 er mwyn cael tymor yng Nghynghrair Europa.

Ond fe brynodd yr Americanwyr y clwb yn 2016 ac ers hynny y dechreuodd trafferthion mawr yr Elyrch ar y cae ac oddi arno, gan ostwng i’r Bencampwriaeth y tymor diwethaf, a cholli nifer sylweddol o’u prif chwaraewyr.

Newid y ffordd y caiff y clwb ei reoli

“Mae pawb sydd yn gysylltiedig â’r clwb yn gwerthfawrogi’r hyn y mae Huw wedi’i wneud dros y clwb dros yr 17 o flynyddoedd diwethaf,” meddai’r datganiad wedyn.

“Fydd ei ran, ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr ac eraill, wrth achub Abertawe pan oedd yna fygythiad go iawn o ebargofiant, fyth yn cael ei anghofio.

“Roedd arwain y clwb i’r Uwch Gynghrair a’r holl lwyddiant a ddaeth i’r cefnogwyr yn sgil hynny yn gyflawniad enfawr a does dim amau ei angerdd a’i ymrwymiad i’r clwb y mae e wedi’i gefnogi er pan oedd e’n blentyn.

“Fodd bynnag, fe gyrhaeddodd sefyllfa lle mae’n rhaid newid y ffordd y caiff Abertawe ei reoli o ddydd i ddydd.

“Does dim cuddio’r ffaith fod y recriwtio wedi bod yn hynod siomedig dros y nifer o ffenestri trosglwyddo diwethaf. Mae wedi gadael y clwb yn wannach lle roedd rhaid gweithredu’n gryf er mwyn datrys y sefyllfa.”

Pennod newydd

Bydd Abertawe nawr yn dechrau chwilio am gadeirydd newydd, ac mae’r perchnogion yn dweud y bydd gan Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr ran bwysig i’w chwarae yn y penodiad newydd.

“Gobeithio fod yma gyfle am bennod newydd yn natblygiad y clwb,” meddai’r ddau.

“Mae’n gyfle am adfywiad, i ddod â dulliau newydd o weithio ac i symud ymlaen gyda phroses gref o wneud penderfyniadau.

“Mae’r chwilio am arweinydd gweithrediadau pêl-droed wedi dechrau, ac fe fydd yn cydweithio’n agos â’r tîm rheoli uwch a Graham Potter a’i staff.

“Bydd hwn yn ymdrech tîm, gan ddefnyddio’r sgiliau diamau sydd eu hangen er mwyn rheoli clwb pêl-droed gweithredol.”