Caerdydd 2–0 Bournemouth                                                         

Darllenodd Bobby Reid y sgript yn berffaith wrth i Gaerdydd drechu Bournemouth ar noson emosiynol yn Stadiwm y Ddinas nos Sadwrn.

Hon a oedd gêm gartref gyntaf yr Adar Gleision ers diflaniad eu blaenwr newydd, Emiliano Sala, a chafwyd munud o dawelwch cyn y gic gyntaf yn y gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Yn dilyn y chwiban, cafodd y tîm cartref y dechrau perffaith gyda chic o’r smotyn yn y pum munud cyntaf, Steve Cook yn llawio’n y cwrt cosbi a Reid yn curo Artur Boruc o’r smotyn.

Bournemouth a oedd yn rheoli’r meddiant a gwrthymosod gyda chyflymder Oumar Niasse yn y llinell flaen a oedd tactegau’r Adar Gleision. Bu bron i hynny arwain at ail gôl o fewn y chwarter awr cyntaf ond roedd croesiad Niasse i Josh Murphy yn rhy agos at Boruc.

Andrew Surman a ddaeth agosaf yn y pen arall ond cafodd ei ergyd o bellter ei gwyro yn erbyn y trawst gan arbediad gwych Neil Etheridge.

Os oedd gôl gynnar yn yr hanner cyntaf, roedd un gynharach fyth yn yr ail wrth i Reid ddyblu’r fantais bymtheg eiliad wedi’r ail ddechrau, yn casglu pas Aron Gunnarsson cyn curo Boruc ar ochr y cwrt cosbi a llithro’r bêl i rwyd wag.

Cafodd yr ymwelwyr ddigon o’r meddiant wedi hynny, ond heb y Cymro, David Brooks, yn eu tîm oherwydd anaf roedd eu hymosod yn ymddangos yn ddi-fin tu hwnt.

Mae Caerdydd yn aros yn safleoedd y gwymp er gwaethaf y fuddugoliaeth ond yn cau’r bwlch ar Burnley yn yr ail safle ar bymtheg i ddau bwynt.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Ecuele Manga, Bamba, Bennett, Paterson, Gunnarsson, Ralls, Murphy (Hoilett 69’), Reid (Bacuna 86’), Niasse (Zohore 83’)

Goliau: Reid [c.o.s.] 5’, 46’

Cerdyn Melyn: Bamba 50’

.

Bournemouth

Tîm: Boruc, Clyne, Cook, Ake, Smith, Stanislas (Ine 62’), Gosling (Lerma 79’), Surman, Fraser, King, solanke (Mousset 62’)

Cardiau Melyn: Clyne 50’, Smith 75’

.

Torf: 31,939