Mae Huw Jenkins, cadeirydd Clwb Pêl-droed Abertawe, wedi ymddiswyddo.

Mae’n gadael ar ddiwedd wythnos gythryblus i’r clwb, wrth iddyn nhw ddod o fewn trwch blewyn o golli’r Cymro Daniel James ar fenthyg i Leeds, cyn gwneud tro pedol ar yr unfed awr ar ddeg.

Roedd adroddiadau y gallai’r capten Leroy Fer fod wedi gadael ar fenthyg i Aston Villa hefyd, ond fe benderfynodd hwnnw aros yn y pen draw.

Mae Huw Jenkins a’r perchnogion Americanaidd, Steve Kaplan a Jason Levien, wedi cael eu beirniadu am fethu â denu chwaraewyr newydd i’r clwb cyn i’r ffenest drosglwyddo gau ddydd Iau (Ionawr 31).

Gyrfa

Cafodd Huw Jenkins ei benodi’n gadeirydd yn 2002, y tymor cyn i Abertawe ddod yn agos at gwympo allan o’r Gynghrair Bêl-droed.

Wedi hynny, roedd e wrth y llyw wrth i’r Elyrch godi i Uwch Gynghrair Lloegr yn 2011, ac ennill Cwpan Capital One yn 2013.

Ond fe fu cryn anfodlonrwydd ymhlith y cefnogwyr ers i’r Americanwyr brynu’r clwb yn 2016, wrth i’r Elyrch ostwng i’r Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor diwethaf.

‘Tristwch mawr’

Dywed mewn datganiad i BBC Cymru ei fod yn teimlo “tristwch mawr” o orfod gadael, ond fod ganddo “ychydig iawn o ddewis” ond camu o’r neilltu.

“Mae Abertawe wedi bod yn rhan enfawr o’m bywyd er pan o’n i’n ifanc iawn,” meddai.

“Rwy wedi bod yn ffodus iawn o gael gwireddu breuddwydion fy mhlentyndod dros yr 17 o flynyddoedd diwethaf, gan gynnig cyfeiriad ac arweiniad yn y clwb wrth symud drwy’r cynghreiriau a chystadlu gydag elit pêl-droed Prydain yn yr Uwch Gynghrair am siath tymor.

“Yn raddol dros y tymhorau diwethaf, mae fy swydd fel cadeirydd yn cynnig y fath arweiniad a chyfeiriad wedi cael ei dirywio.

“Yn olaf, alla i ddim eistedd yn ôl a chuddio y tu ôl i’m safle ac aros yn dryw i fi fy hun a’r hyn rwy’n ei gredu.

“Roedd cael arwain y clwb drwy’r cyfnod gorau yn ei hanes yn brofiad gwych.

“Roedd yr awyrgylch wnaethon ni ei chreu o fewn y clwb yn sicr yn un o’r ffactorau a gyfrannodd at ein llwyddiant dros nifer o flynyddoedd.

“Fe wnaeth y cyfarwyddwyr a’r staff a weithiodd gyda fi dros yr 17 o flynyddoedd diwethaf wedi fy nghefnogi gydag ymddiriedaeth a ffyddlondeb llwyr, ac roedd gennym gariad at Abertawe’n gyffredin, ac roeddem yn gweithredu fel cefnogwyr go iawn wrth redeg y clwb o’r top i’r gwaelod.”