Bristol City 2–0 Abertawe                                                               

Colli fu hanes Abertawe wrth iddyn nhw deithio dros y bont i herio Bristol City yn Ashton Gate yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Goliau Weimann ac O’Dowda a wnaeth y gwahaniaeth wrth i’r tîm cartref ennill yn Bryste.

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd mewn hanner cyntaf di sgôr ac roedd Andi Weimann yn meddwl ei fod wedi rhoi’r tim cartref ar y blaen ond cafodd y gôl ei gwrthod oherwydd camsefyll.

Gwnaeth Frank Fielding arbediad da yn y pen arall i atal Nathan Dyer wedi gwaith creu Declan John.

Aeth Bristol City ar y blaen ym munud cyntaf yr ail hanner gyda pheniad Weimann o groesiad cywir Jamie Paterson.

Dyblwyd y fantais chwarter awr o’r diwedd gyda Weimann yn creu y tro hwn, pas yr Awstriad yn rhyddhau Callum O’Dowda i orffen trwy goesau Erwin Mulder yn y gôl.

Mae’r canlyniad yn codi Bristol City i’r safleoedd ail gyfle ond mae Abertawe’n llithro i’r trydydd safle ar ddeg yn y tabl, chwe phwynt y tu ôl i Bristol City yn y chweched safle.

.

Bristol City

Tîm: Fielding, Wright, Webster, Kalas, Dasilva, Pack, Weimann, Paterson (Eliasson 70’), Brownhill, O’Dowda (Palmer 83’), Diedhiou (Taylor 75’)

Goliau: Weimann 46’, O’Dowda 74’

.

Abertawe

Tîm: Mulder, Roberts (McKay 75’), van der Hoorn, Carter-Vickers, John, Gulton, Grimes, Dyer (Asoro 62’), Byers (Baker-Richardson 77’), Celina, McBurnie

Cerdyn Melyn: Byers 63’

.

Torf: 23,560