Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Abertawe yn cyhuddo’r perchnogion o gyfres o fethiannau wedi i’r ffenest drosglwyddo gau ddydd Iau (Ionawr 31).

Fe fu’r Americanwyr Jason Levien a Steve Kaplan, a’r cadeirydd Huw Jenkins, dan y lach ers tro yn sgil methiannau’r clwb dros y blynyddoedd diwethaf.

Gadawodd Wilfried Bony (Al-Arabi), Jefferson Montero (West Brom) a Tom Carroll (Aston Villa) ar fenthyg, ac fe ddaeth yr Elyrch yn agos at golli’r Cymro addawol Daniel James a’r capten Leroy Fer, cyan i’r clwb wneud tro pedol hwyr – penderfyniad sy’n destun “rhyddhad” i’r Ymddiriedolaeth.

“Nid y ffaith fod chwaraewyr wedi cael gadael yw testun rhwystredigaeth yr Ymddiriedolaeth ond yn hytrach, na fu unrhyw ymdrech i ddod ag unrhyw un i mewn yn eu lle, a bod Montero a Carroll wedi gadael am glybiau sy’n cystadlu’n uniongyrchol yn erbyn yr Elyrch, fel y byddai’n wir hefyd am James a Fer,” meddai’r Ymddiriedolaeth mewn datganiad ar eu gwefan.

Maen nhw’n dweud bod yr ymadawiadau’n “gwanhau’r garfan yn sylweddol”, a bod gan y clwb “fawr o ddiddordeb mewn sicrhau ein bod yn gystadleuol ar y cae”.

Ond maen nhw’n cefnogi’r rheolwr Graham Potter sydd, medden nhw, “wedi cael ei siomi” gan y perchnogion.

Diffyg polisi

Mae’r Ymddiriedolaeth yn dweud bod polisi trosglwyddiadau’r perchnogion “yn dangos y ffordd analluog y mae’r clwb yn cael ei redeg”.

Ac maen nhw’n dweud nad yw’n glir pwy sy’n gyfrifol am beth o fewn y clwb, sy’n achosi “dryswch”, a bod “lleihau costau’n digwydd ar draul materion ar y cae”.

Maen nhw’n dweud nad ydyn nhw’n glir ai “gofynion ariannol neu ddiffyg uchelgais” sy’n gyfrifol am y sefyllfa bresennol.

‘Dysgu gwersi’

Wedi i’r clwb ddisgyn o Uwch Gynghrair Lloegr y tymor diwethaf, fe gollon nhw gryn dipyn o’r hoelion wyth ac oni bai am y penderfyniad munud olaf i gadw Leroy Fer, fe fydden nhw wedi colli chwaraewr allweddol arall.

Mae hynny, meddai’r Ymddiriedolaeth, yn dangos “nad yw’r clwb wedi dysgu’r gwersi o drychinebau’r ffenestri trosglwyddo blaenorol” ac na fu ymgais i “waredu’r clwb o’r unigolion sy’n gyfrifol am y camgymeriadau a arweiniodd at gwympo o’r Uwch Gynghrair”.

Cyn y gwymp, fe ddywedodd yr Americanwyr a Huw Jenkins na fyddai modd iddyn nhw barhau yn eu swyddi pe baen nhw’n gostwng i’r Bencampwriaeth – ond does dim arwydd eu bod nhw am adael y clwb.

Ac mae’r penderfyniad i adael i bump chwaraewr adael ym mis Ionawr yn arwydd o “esgeulustod difrifol” ar ran y tri, meddai’r Ymddiriedolaeth.

Diffyg cefnogaeth i Graham Potter

Mae diffyg cefnogaeth y perchnogion a’r cadeirydd i’r rheolwr Graham Potter hefyd yn cael ei feirniadu.

Mae’r rheolwr newydd wedi gweddnewid sefyllfa’r tîm ar y cae, wrth iddyn nhw fynd am ddyrchafiad ar y cynnig cyntaf – er mor annhebygol yw hynny ar hyn o bryd.

Ac mae’r tîm hefyd ar drothwy rownd wyth olaf Cwpan FA Lloegr am yr ail dymor yn olynol.

“O ystyried geiriau’r cadeirydd ychydig wythnosau’n ôl pan ddywedodd fod modd brwydro am ddyrchafiad, mae’r digwyddiadau yn ystod y ffenest drosglwyddo’n awgrymu fod hynny ymhell iawn o feddyliau’r clwb,” meddai’r Ymddiriedolaeth wedyn.

Roedd y parodrwydd i weld Daniel James yn gadael, meddai, “yn dangos diffyg cefnogaeth llwyr i’r rheolwr”.

Dymuniadau’r Ymddiriedolaeth

Mae’r Ymddiriedolaeth bellach yn galw am:

  • symud y cadeirydd Huw Jenkins o’i swydd, gan ddweud mai fe sy’n gyfrifol am sefyllfa’r trosglwyddiadau
  • tryloywder gan y perchnogion Americanaidd wrth egluro pam fod rhai penderfyniadau wedi cael eu gwneud
  • adolygiad llawn o gostau staffio’r clwb – gan fod staff sy’n “mwynhau lletygarwch y clwb yn clatsio cefnogwyr yn eu hwynebau” ac yn creu sefyllfa lle mae’r “clwb mor bell ag erioed oddi wrth y cefnogwyr”.

Taith i Bristol City

Ar y cae, yn y cyfamser, mae Abertawe’n teithio i Bristol City heddiw.

Byddan nhw heb eu capten Leroy Fer, sydd wedi anafu ei goes, ac mae Wayne Routledge allan o hyd.

Dyma daith gyntaf Abertawe i Bristol City yn y gynghrair ers mis Chwefror 2011, pan gollon nhw o 2-0. Yn wir, dydy’r Elyrch ddim wedi sgorio mewn wyth allan o 10 o gemau yn eu herbyn yn y gynghrair.

Ond maen nhw’n mynd am ddwy fuddugoliaeth o’r bron oddi cartref yn y gynghrair yn Bristol City am y tro cyntaf erioed. Ond bydd angen iddyn nhw guro’u gwrthwynebwyr sydd wedi ennill pedair o gemau’n olynol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dim ond Billy Sharp, ymosodwr Bristol City sydd wedi sgorio mwy o goliau nag Oli McBurnie, ymosodwr Abertawe. Mae gan Sharp 23 o goliau, tra bod gan McBurnie 22, gan gynnwys naw ar fenthyg i Barnsley.