Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi llwyddo i ddal eu gafael ar y Cymro Daniel James a’r capten Leroy Fer wrth i’r ffenest drosglwyddo gau neithiwr (nos Iau, Ionawr 31).

Roedd Leeds yn awyddus i arwyddo’r asgellwr o Gymro Daniel James ar fenthyg gyda’r opsiwn i’w brynu ar ddiwedd y tymor, tra bod Aston Villa yn cwrso’r chwaraewr canol cae Leroy Fer.

Hynt a helynt Daniel James oedd un o brif bynciau trafod y ffenest drosglwyddo gydol mis Ionawr, gyda’r dyfalu y gallai’r Elyrch fynnu hyd at £10m amdano.

Ac fe ddenodd Leeds sylw drwy gynhadledd y wasg Marcelo Bielsa, wrth i ffeil ar ei gyfrifiadur ddatgelu diddordeb y clwb yn Daniel James, wrth i’r rheolwr geisio egluro pam y bu’r clwb yn ysbïo ar glybiau eraill yn ymarfer.

Fe gyrhaeddodd Daniel James Elland Road ar gyfer prawf meddygol, fe gafodd y telerau eu cytuno ond fe dynnodd yr Elyrch yn ôl yn y pen draw, gan wrthod trafod ymhellach. A hynny er bod y chwaraewr wedi datgan ei ddymuniad i adael.

Ymadawiadau

Gyda’r angen i gadw’r ddysgl yn wastad o ran sefyllfa ariannol y clwb, roedd hi’n debygol y byddai ambell chwaraewr yn gadael cyn i’r ffenest gau.

Ac fe ddaeth cadarnhad ar y diwrnod olaf fod Wilfried Bony, yr ymosodwr sydd wedi dioddef o nifer o anafiadau ers dychwelyd i’r clwb, wedi ymuno â chlwb Al-Arabi yn Qatar ar fenthyg am weddill y tymor.

Mae’r asgellwr Jefferson Montero wedi symud ar fenthyg at West Brom tan ddiwedd y tymor, tra bod Jordan Ayew, ar fenthyg yn Crystal Palace, wedi penderfynu aros yno’n barhaol.

Mae Tom Carroll wedi symud at Aston Villa ar fenthyg tan ddiwedd y tymor hefyd.

Ar y cyfan, fe fydd ochenaid amlwg o ryddhad yn Abertawe, gan y gallai’r sefyllfa fod wedi bod yn waeth o lawer nag yr oedd yn y pen draw.