Mae disgwyl y bydd ymosodwr ifanc Cymru a Manchester City, Rabbi Matondo, yn gwneud ei ffordd i’r Almaen wrth i’w glwb gytuno ar ffî gwerth £12m gyda Schalke.

Fe chwaraeodd y llanc 18 oed ei gêm gyntaf i Gymru pan gollwyd 1-0 yn erbyn Albania nôl ym mis Tachwedd.

Fe benderfynodd wrthod arwyddo cytundeb newydd gyda Man City ac yn dilyn mae llawer o ddiddordeb wedi dod o gynghrair y Bundesliga yn yr Almaen.

Roedd Borussia Dortmund a Bayern Munich wedi dangos eu hedmygedd o gyn chwaraewr Caerdydd ond mae son mai Schalke sydd wedi ennill y ras wrth i ffi o £11.29m gael ei gytuno.

Mae cyflymder Rabbi Matondo wedi gwneud iddo sefyll allan yn Man City, hyd yn oed ymysg chwaraewyr cyflymaf Uwch Gynghrair Lloegr fel Sergio Aguero a Leroy Sane.