Bangor 1–2 Caernarfon                                                                    

Caernarfon aeth â hi yn y gêm ddarbi fawr y erbyn Bangor ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru nos Sadwrn.

Gareth Edwards a sgoriodd y gôl holl bywsig yn yr ail hanner i’w hennill hi i’r Cofis ar noson hynod wlyb yn Nantporth.

Bangor a oedd y tîm gorau yn chwarter cyntaf y gêm ac roedd angen peniad amddiffynnol da gan Jamie Crowther ar ei linell gôl ei hun i atal Marc Williams rhag rhoi’r tîm cartref ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner.

Ddau funud yn ddiweddarach roedd Jamie Breese wedi agor y sgorio yn y pen arall, yn rhedeg rhwng ddau amddiffynnwr cyn codi ergyd gywir heibio i Nathan Wolland yn y gôl.

Roedd y gôl yn erbyn llif y chwarae ond Caernarfon a oedd y tîm gorau wedi hynny a gwastraffodd Danny Brookwell gyfle da i ddyblu’r fantais. Cafodd Breese gyfle i sgorio ail hefyd ond gwnaeth Wolland arbediad da i’w atal gyda’i droed y tro hwn.

A chafodd yr ymwelwyr o’r Uwch Gynghrair eu cosbi am fethu’r cyfleoedd yn eiliadau olaf yr hanner wrth i Bangor unioni. Daeth y gôl o gic gornel Jake Phillips, er nad oedd hi’n berffaith glir os aeth y bêl yn syth i mewn neu os y cafodd Jordan Piggott neu Robbie Parry gyffyrddiad arni.

Er ildio eu mantais yn hwyr yn yr hanner cyntaf, roedd gan Gaernarfon fwy o reolaeth ar y gêm yn yr ail hanner ac roeddynt yn haeddu mynd ar y blaen ar yr awr.

Gareth Edwards a gafodd y gôl holl bwysig, yr amddiffynnwr canol mawr wedi aros i fyny ar ôl cic gornel i benio o groesiad Jamie Crowther.

Roedd gan Bangor hanner awr i daro nôl wedi hynny ond er iddynt dreulio’r munudau olaf yn hanner Caernarfon, fe ddaeth yr ymateb hwnnw’n rhy hwyr mewn gwirionedd wrth i’r ymwelwyr ddal eu gafael i ennill yn y glaw.

Enw Caernarfon yn yr het ar gyfer y rownd go gynderfynol felly ond maent mewn cwmni da, gyda saith o’r wyth olaf yn dimau Uwch Gynghrair.

.

Bangor

Tîm: Wolland, Phillips, Piggott, Mike Williams, Stephens, Baio (Dool 87’), Menagh, Parry (Taylor-Fletcher 82’), Marc Williams, Farleigh (Boss 86’), Jones

Gôl: Phillips 45+1’

Cardiau Melyn: Marc Williams 65’, Piggott 68’

.

Caernarfon

Tîm: Ramsay, J. Williams, Craig, G. Edwards, Evans, Crowther, R. Williams, Jones (N. Edwards 57’), Breese (Roberts 90+2’), Thomas, Brookwell (Bradley 81’)

Goliau: Breese 26’, G. Edwards 60’

Cardiau Melyn: Brookwell 28’, Ramsay 90+1’, J. Williams 90+4’

.

Torf: 2,500