Wrecsam 1–0 Maidenhead                                                            

Enillodd Wrecsam am y tro cyntaf yn 2019 wrth groesawu Maidenhead i’r Cae Ras yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr brynhawn Sadwrn.

Luke Young a sgoriodd unig gôl y gêm, i ddod â rhediad o bump colled yn olynol yn y gynghrair i ben.

Rheolodd Wrecsam rannau helaeth o’r gêm yn erbyn y gwrthwynebwyr o waelodion y tabl ac roedd angen lluman y dyfarnwr cynorthwyol i atal Rekeil Pyke rhag agor y sgorio i’r tîm cartref.

Ond fe ddaeth y gôl holl bwysig i’r Cymry toc wedi’r awr pan wyrodd yr eilydd, Young, y bêl heibio i Carl Pentney o groesiad isel.

Mae tîm Graham Barrow yn aros yn bumed yn y tabl er gwaethaf y fuddugoliaeth ond yn aros o fewn cyrraedd i’r timau ar y brig ar ôl dod â’u rhediad gwael i ben.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Roberts, Jennings, Walker, Summerfield (Young 41’), Pearson, Rutherford, Wright, Lawlor, Beavon (Oswell 65’), Pyke (Holroyd 90+1’)

Gôl: Young 61’

Cerdyn Melyn: Young 80’

.

Maidenhead

Tîm: Pentney, Steer, Massey, Clifton (Bird 67’), Ofori-Twumasi, Kilgour, Comley, Upward, Odametey, Akintunde (Kelly 59’), Nombe (Owusu 75’)

Cerdyn Melyn: Ofori-Twumasi 54’

.

Torf: 4,323