Abertawe 4–1 Gillingham                                                               

Mae Abertawe ym mhumed rownd y Cwpan FA yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus dros Gillingham yn y bedwaredd rownd ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd McBurnie ddwy waith yn yr hanner cyntaf cyn i Celina a McKay selio’r fuddugoliaeth yn yr ail gyfnod.

Deg munud yn unig a oedd ar y cloc pan benodd Oli McBurnie’r Elyrch ar y blaen o groesiad Leroy Fer.

Dyblodd yr Albanwr y fantais wedi hanner awr yn dilyn gwaith creu taclus Barrie McKay a Connor Roberts.

Roedd Gillingham yn ôl yn y gêm yn gynnar yn yr ail hanner diolch i beniad Josh Rees o groesiad cywir Mark Byrne.

Adferodd Bersant Celina ddwy gôl o fantais yr Elyrch ddeunaw munud o’r diwedd gyda tharan o ergyd i’r gornel uchaf o bum llath ar hugain.

A rhoddwyd yr eisin ar y gacen chwe munud o’r dwiedd pan rwydodd Mckay o groesiad Roberts.

Buddugoliaeth gyfforddus i dîm Graham Potter yn y diwedd ac Abertawe yn yr un ar bymtheg olaf am yr ail dymor yn olynol.

.

Abertawe

Tîm: Mulder, Roberts, vn der Hoorn, Carter-Vickers, John, Fer (Fulton 82’), Celina, Grimes, Baker-Richardson (James 69’), McBurnie (Byers 82’), McKay

Goliau: McBurnie 10’, 32’, Celina 73’, McKay 84’

Cerdyn Melyn: Carter-Vickers 14’

.

Gillingham

Tîm: Holy, Zakuani, Ehmer, Ogilvie (Parrett 83’), O’Neill (Fuller 83’), Rees, Byrne, Garmston, Charles-Cook, Eaves, List (Hanlan 71’)

Gôl: Rees 51’

.

Torf: 15,080